Alwyn FrancisPLEMING16eg o Ionawr 2022. Hunodd yn dawel yn ei gartref Bryn Hafod, Pen y Berth, Llanfairpwll, Ynys Môn yn 83 mlwydd oed. Gŵr annwyl a ffrind pennaf Jean; tad cefnogol a balch Aled a Gwyn; tad yng nghyfraith a chyfaill mawr Lis ac Ingrid; taid hwyliog Esther; brawd a brawd yng nghyfraith triw Helen a Glyn; ewythr hoffus a ffrind arbennig i lawer ac athro Cymraeg ysbrydoledig i nifer o'i gyn-ddisgyblion yn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Cynhelir angladd hollol breifat, yn ôl ei ddymuniad. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Alwyn tuag at Sefydliad Ymchwil y Galon Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Ymholiadau pellach drwy'r Ymgymerwr Arwyn Hughes, Bryn Hyfryd, Dulas, Ynys Môn, LL70 9PJ a'r Hen Fecws, Marian-Glas, Ynys Môn. Ffôn: 01248 410353
Keep me informed of updates